|
Mae CND Cymru'n ymgyrchu ochr yn ochr a llu fudiadau eraill yng Nghymru a phedwar ban y byd i gael gwared o arfau dinistr torfol o Brydain a'r byd, a thros heddwch a chyfiawnder i bobl a'r amgylchedd. |
|
|
|
DIM ARFAU NIWDEAR NEWYDD - DIM BYD YN LLE TRIDENT Mae'r Llywodraeth Brydeinig eisoes yn ystyried beth all gymryd lle'r system arfau niwclear Trident sy'n heneiddio - er gwaetha'r ffaith y byddai'n:
BETH SY'N MYND YMLAEN? Dydy llywodraethau Prydain a'r UD ddim yn esgus fod arfau niwclear yn 'fraw-ataliad' bellach. Mae gan lywodraeth yr UD ffantasi beryglus dros ben ei bod yn syniad da, yn bosib ac yn 'iawn' yn foesol i ddefnyddio technoleg filwrol i ennill a chynnal 'tra-argiwyddiaeth fyd-eang' ar fasnach, buddsoddi, systemau cyfathrebu ac adnoddau. Mae cyllideb filwrol yr UD mor fawr nes ei bod yn gyfrifol am fwy na 40% o wariant milwrol ybyd. Mae'r llywodraeth Brydeinig yn defnyddio'r un dadleuon i gyfiawnhau gwario ar arfau newydd. Mae'r llywodraeth Brydeinig hetyd yn datblygu swvddogaeth 'is-strategol' ar gyfer arfau niwclear, lle byddai rhai taflegrau Trident yn cario dim ond un ergyd niwclear, gyda'r bwriad o'i defnyddio 'ar taes y gad'. Fodd bynnag, byddai pob un o'r llongau tanfor yn dal i fod a'r gallu i gario 48 ergyd. 0 POLARIS I TRIDENT Cymerodd system arfau niwclear Trident Prydain ie system arfau niwclear long-danfor Haenorol o'r enw Polaris, sef pedair llong danfor Brydeinig yn cludo 16 o daflegrau Polaris a adeiladwyd yn yr UD. Roedd y taflegrau'n cario ergydion niwclear 'Chevaline' Prydeinig.
Disodiwyd y system Polaris/Chevalinc gan Trident yn 1980 heb i'r Senedd gael ei hysbysu'n iawn ynglwn a bodolaeth Trident, na'r gost debygol. Dechreuodd y llong dantor Trident gyntaf wasanaethu ym 1994. CoiTlisiynwyd y bedwaredd a'r olat i mewn i'r gwasanaeth ym 1999. Bwriedid i Trident fod ag oes o ryw 30 mlynedd, tellv gallai barhau'n weithredol tan tua 2025. MAE'N BRYD PENDERFYNU Cymerodd 14 blynedd o'r penderfyniad ym 1980 y byddai Trident yn cymryd lie Polaris nes i'r llong danfor Trident gyntaf ddechrau gwasanaethu, telly mae'n amiwg ei bod hi'n bryd penderfynu a fydd rhywbwth yn cymryd lle Trident yn awr. Ar y 4ydd o Orffennaf 2005, cadarnhawyd hynny gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiftyn, John Reid, pan ddywedodd, "Maen debyg y bydd angen penderfynu ynglwn â beth, os unrhyw beth, a ddylai gymryd lle braw-ataliwr niwclear y Deyrnas Unedigynystodoesy senedd bresennol. "
ANNOETH AC ANLLAD Amcangyfrifwyd y byddai unrhyw system newydd yn lle Trident yn costio mwy na £15 biliwn (o'i gymharu a'r gyllideb amddiffyn Brydeinig o ryw £6 biliwn y flwyddyn). Nid yw hyn yn cynnwys cost lawn dadgomisiynu neu ymdrin â phroblemau gwastraff niwclear a llygredd Trident neu ei olynydd. Pe penderfynid peidio a chael dim byd yn lle Trident, gallai'r arian yma fod ar gael ar gyf er cyfrifoldebau eraill y llywodraeth, fel iechyd, addysg, amddiffyn yr amgylchedd, a hyrwyddo heddwch a chyfiawnder rhyngwladol. Mae arwyddion fod y llywodraeth eisoes wed penderfynu'n gyfrinachol ar system niwclear gymryd lle Trident ac wedi cychwyn paratoadau adeiladu arfau niwclear newydd.
BETH ALLAI DDOD AR OL TRIDENT? Mae tri dewis posibi yn wynebu'r llvwodraeth: 1. Ymestyn oes' y Trident presennol; 2. Gosod system arall yn lle Trident; 3. Peidio a rhoi dim byd yn lle Trident.
1. YMESTYN OES TRIDENT? Yn y tymor byr, efallai y bydd y llywodraeth Brydeinig yn oedi cyn gwneud penderfyniad terfynol drwy benderfynu ymestyn bywyd Trident. Byddai hyn yn golygu tod Prydain yn cydymffurfio ag UDA sydd eisoes wrthi'n ymestyn bywyd ei llongau tanfor Trident drwy gyfrwng y 'Trident II D5 Service Life Extension Programme'. Gellid ystyried 'gofynion' niwclear Prydain wedyn pan tydd Llynges yr UD yn dylunio'r system tydd yn cymryd lle system Trident America erbyn 2029.
2. SYSTEM ARFAU NIWCLEAR NEWYDD I GYMRYD LLE TRIDENT? Od bydd y llwyodraeth Brideinig yn archebu system newydd gyfan i gymryd lle Trident nawr, bydd neu un sgil estyniad I oes gyfredol Trident, bydd rhai penderfyniadau manwl yn deillio o hynny:
a. Y MATH O LONG DANFOR Y mae'n bosib, yn hytrach nag adeiladu llongau tanfor newydd a'r diben unswydd o danio arfau niwclear, y gellid cynhyrchu 'llong danfor hyblyg aml-swyddogaeth', a allai danio taflegrau pellter-maith niwclear a thaflegrau confensiynol. Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar hyn o bryd yn rhedeg yr astudiaeth 'Gallu Tanfor yn y Dyfodol' sy'n ymchwilio i genhedlaeth newydd o longau tanfor ynni niwclear, efallai wedi eu seilio ar y llongau tanfor ynni niwclear dosbarth 'Astute' newydd sydd eisoes yn cael eu cynhyrehu i gymryd lle llongau tanfor Prydain sy'n rhedeg ar ynni niwclear ond sydd wedi eu harfogi ag arfau confensiynol.
b. MATH O ERGYD Gallai Prydain gy^ranogi hefyd yn rhaglenni'r UD sy'n ymchwilio i arfau niwclear tactegol newydd, 'mwy detnyddiadwy' o hyd at bum cilofon o buer ffrwydrol gyda'r bwriad o'u defnyddio ar 'faes y gad'. Peidiwch a chael eich twyllo, byddai gan yr arfau 'mwy defnyddiadwy' hyn o leiaf draean puer bom Hiroshima, a byddai effeithiau defnyddio'r fath arfau yn ddeifiol.
3. MANTEISIO AR Y FOMENT - Dim Arfau Niwclear
Cred CND Cymni mai diarfogi niwclear llwyr yw'r unig ddewis cyfreithlon a moesol ar gyfer Prydain; felly, ni ddylid estyn oes y system arfau niwclear Trident na chael dim byd yn ei lle.
a. Byddai diarfogi niwclear yn galluogi Prydain i gyflawni ei dyletswydd 35-mlwydd oes o dan Erthygl VI o'r Cytundeb Atal Ymlediad Niwclear (CAY) sy'n dweud: "Mae pob parti i'r Cytundeb yn ymgymryd i fynd ah i negydu 'n ddidwyll arfesurau effeithiol yn ymwneud ag atal y ras arfau niwclear" yn fuan, a diarfogi niwclear, ac ar gytundeb ar ddiarfogl cyffredinol a llwyro dan reolaeth ryngwladolgaeth ac effeithiol."
b. yng nghynhadledd CAY 2000, addawodd yr holl wledydd sydd ag arfau niwclear, yn cynnwys Prydain, "yn ddiamwys ... i sycrhan dileu eu hargofaeth niwclear yn llwyr, gan arwain at ddiarfogl niwclear. "
c. Ym 1996, dyfarniad y Llys Cyfiawnder Rhyngwiadol oedd y byddai: "bygwth neu ddefnyddio arfau niwclear yngyffreinol yn groes i reolau'r gyfratth ryngwladol yn achos gwrthdaro arfog, ac, yn enwedig, egwyddorion a rheolau cyfraith ddyngarol. " Mewn geiriau eraill, byddai unrhyw ymosodiad niwclear yn anghyfreithlon, oni ellid ei gyflawni o fewn terfynau'r gyfraith ddyngarol, sefyllfa y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei chael yn amhosib ei dychmygu.
SAFBWYNT Y LLYWODRAETH BRYDEINIG Rhoddodd y llywodraeth Lafur y gorau i'w pholisi o 'Ddim Defnydd Cyntaf' (o arfau niwclear) ar ol cael ei hethol ym 1997. Yn 2002, dywedodd, Geoff Hoon, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ar y pryd, y gellid defnyddio arfau niwclear nid yn unig mewn ymateb i ymosodiad niwclear ond hefyd mewn ymateb i ymosodiadau ag arfau cemegol neu fiolegol. Cyhoeddodd Hoon hefyd y gellid taro o flaen llaw yn erbyn gwlad roedd y llywodraeth yn ei hystyried yn fygythiad digon mawr, p'run ai bod gan y wlad honno arfau niwclear ai peidio. Mae hyn yn gwbl groes i ymrwymiadau blaenorol gan Brydain na fyddai byth yn defnyddio arfau niwclear gyntat, a datganiadau sy'n mynnu mai dim ond 'braw-ataliad niwclear lleafsymiol' yw Trident. Mae'r fath barodrwydd I gymryd y cam cyntat tuag at ryfel niwclear yn groes i gytundebau a chyfraith ryngwladol. Mae'r llywodraeth hefyd wedi hacru droeon fod angen i Brydain barhau i tod a braw-ataliwr niwclear, a dywedai maniftesto'r blaid Lafur 2005:"Rydym hefyd yn ymrwymedig i gadw'r braw-ataliwr niwclear annibynnol." Disgrifir arfau niwclear Prydain fel rhai 'annibynnol' beunydd er bod Prydain yn ddibynnol ar UDA am bron bob agwedd ar adeiladu Trident, ei gynnal a'i gadw, ei baratoi at ddefnydd a'i dargedu.
NID 'OS' ... OND 'PA RAI' Er gwaetha'r ffaith na fu dadi ar y pwnc yn Nhw'r Cyffredin, gwariwyd symiau anferth o arian eisoes ar ddatblygiadau yn Setydiiad Arfau Atornig (SAA) Aldermaston yn Berkshire, Lloegr lle mae ergydion niwclear Prydain yn cael eu cynhyrchu a'u cynnal a'u cadw. Mae'r gwariant newydd yma yn cynnwys recriwtio 80 o wyddonwyr arbenigol, amryw labordai ac offer newvdd, yn cynnwvs canolfan laser bwerus iawn o'r enw 'Orion' a fydd yn gwneud profion ar gydrannau ergydion niwclear o dan amgylchiadau ffrwydrad niwclear. Mae'r laser ei hun yn tanseilio nodau'r Cytundeb Gwahardd Profion Cynhwystawr.
Mae Prydain ac UDA newydd adnewyddu eu Cytundeb Cyd-arnddiffyn. Bu nifer gynyddol o gyfarfodydd rhwng gwyddonwyr o Aldermaston a rhai o labordai arfau niwclear yr UD yn Los Alamos, Lawrence Livermore a Sandia. Mae'n ddigon tebyg mai diben y cyfarfodydd hyn yw paratoi'r isadeiledd ar gyfer datblygu arfau niwclear.
|
|
|
TRIDENT TRIDENT - Y SYSTEM ARFAU NIWCLEAR 'BRYDEINIG' AR HYN O BRYD, MAE'N CYNNWYS: • 4 llong-danfor ynni niwclear a adeiladwyd yrn Mhrydain; mae un o'r rhain bob amser allan ar y mor yn cadw gwyliadwraeth. • Mae pob llong danfor yn cario hyd at 16 o daflegrau Trident II D5, ar les oddi wrth UDA. • Mae 3 ergyd niwclear a adeiladwyd ym Mhrydain ar bob taflegryn, sy'n golygu y gall pob Hong danfor Trident gario hyd at 48 o ergydion. • Gellir anelu pob ergyd unigol at wahanol darged, dan arweiniad lloerennau'r UD. • Mae pob ergyd 8 gwaith yn fwy pwerus na'r born a ollyngwyd ar Hiroshima, Japan ym 1945 gan [add mwy na 100,000 o bobl. Mae gan bob un o'r 4 Hong danfor gymaint o allu dinistriol a 384 born Hiroshima.
|
Am gopiau ychwanegol o'r papur cefndir yma cysylltwch ag CND Cymru Y Dram-Gwynion, Heol yr Eglwys, Talywaun, Pontypwl NP4 7EF
(01495) 773 180
heddwch@cndcymru.org hefyd, gweler: www.cnduk.org a www.greenpeace.org.uk
cyhoeddwyd gyntafyng ngaeaf 2005/6 |
|
Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau fod ein llywodraeth ddemocrataidd etholedig yn cefnogi ac yn datblygu ffyrdd o ddatrys anghydfod yn heddychlon. Ni all technoleg filwrol newydd byth gymryd lle gwir ddiplomatiaeth, dealltwriaeth ryngwladol, a pharch at hawliau dynol a'r amgylchedd. Mae arnom angen fframwaith diogelwch byd-eang yn seiliedig nid ar fygythiad arfau dinistr torfol brawychus, ond ar ufuddhau i gyfraith ryngwladol, ac i gytundebau a phenderfyniadau'r CU, a'u parchu.
Mae'r system arfau niwclear Trident yn ddrud, yn ddiwerth yn filwrol, ac yn groes i gyfraith ryngwladol. Dim ond drwy ddilyn llwybr diarfogi niwclear y gall Prydain wynebu gwir her diogelwch yn yr 21ain ganrif.
Mae CND Cymru'n galw ar y Llywodraeth Brydeinig:
• i ddadgomisiynu'r system arfau niwclear Trident,
• i roi'r gorau i unrhyw gyniluniau ar gyfer systemau arfau niwclear yn y dyfodol,
• i weithio'n rhyngwladol i gryfhau cytundebau diarfogi presennol,
• i annog diarfogi amlochrog.
Mae CND Cymru'n ymgyrchu ochr yn ochr a llu fudiadau eraill yng Nghymru a phedwar ban y byd i gael gwared o arfau dinistr torfol o Brydain a'r byd, a thros heddwch a chyfiawnder i bobl a'r amgylchedd.
|
|
|
Back to Daf's home page |
|
Back to soapbox |